Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 16 Ionawr 2020
Amser: 09.15 - 15.45
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Matthew Richards, Cynghorydd Cyfreithiol Craig Griffiths, Cynghorydd Cyfreithiol Carys Evans, Pennaeth Cymorth ac Ymgysylltu ag Aelodau Joanna Adams, AC Uwch Bartner Busnes Anna Daniel, Pennaeth y Gwasanaeth Trawsnewid Strategol Sulafa Thomas, Pennaeth Cymorth i’r Comisiwn ac i’r Aelodau Huw Gapper, Uwch Swyddog Newid Cyfansoddiadol |
Ysgrifenyddiaeth: |
Lleu Williams, (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2 Nododd y Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd y newidiadau staffio dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn, a chroesawyd Huw Gapper a Dan Collier.
1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion cyfarfod 21 Tachwedd fel cofnod cywir, yn amodol ar welliant i baragraff 3.13 i atgyfnerthu bod y Bwrdd wedi ystyried cymariaethau â Seneddau eraill y DU wrth wneud ei benderfyniad ar lefelau cyflog staff cymorth.
1.4 Nododd y Bwrdd fod Deddf Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ac y bydd enw'r sefydliad yn newid ar 6 Mai 2020 i Senedd Cymru / Welsh Parliament. Nododd y Bwrdd y bydd ei enw wedi newid i Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd wedi hynny.
1.5 Nododd y Bwrdd y bydd Cadeirydd y Bwrdd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad ddydd Llun 20 Ionawr.
1.6 Cytunodd y Bwrdd ar gynigion i gynnal adolygiad anffurfiol o'r llawlyfr i Staff Cymorth. Cytunodd y Bwrdd i ystyried papur yn nodi ei ddull o ymdrin â'r adolygiad hwn yn ei gyfarfod nesaf.
1.7 Cytunodd y Bwrdd i gynnig diwygiad i'r Weithdrefn Ddisgyblu a Chwyno ar gyfer Staff Cymorth i egluro'r seiliau ar gyfer apelio. Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori'n ffurfiol ag Aelodau a Staff Cymorth fel rhan o'i lythyr diweddaru ar ôl y cyfarfod.
1.8 Cytunodd y Bwrdd y dylid atgoffa'r Aelodau fod ganddynt ddyletswydd gofal, fel cyflogwyr, dros eu Staff Cymorth. Cytunodd y Bwrdd i annog Aelodau i ofyn am gyngor gan adran ddiogelwch Comisiwn y Cynulliad ar gadw'n ddiogel bob amser.
1.9 Nododd y Bwrdd y diweddariad ar Strategaeth Buddsoddi Bwrdd Pensiwn yr Aelodau.
1.10 Gwnaeth y Pwyllgor drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn.
1.11 Cytunodd y Bwrdd i geisio trefnu cyfarfodydd y Grŵp Cynrychiolwyr ar gyfer yr un diwrnod â chyfarfod nesaf y Bwrdd.
Camau gweithredu:
- Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio a chyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd;
- Yr ysgrifenyddiaeth i ddiwygio'r Rhaglen Waith i gynyddu amseriad yr eitem ar y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad ar gyfer cyfarfod 2 Ebrill.
- Yr ysgrifenyddiaeth i drefnu cyfarfod gyda Grwpiau Cynrychiolwyr cyn y cyfarfod ym mis Chwefror.
- Yr uned Cymorth Busnes i’r Aelodau i baratoi papur yn nodi cwmpas yr adolygiad o'r llawlyfr i staff cymorth i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf.
- Yr ysgrifenyddiaeth i anfon y llythyr yn sgîl penderfyniad y Bwrdd cyn gynted â phosibl.
-
-
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Sulafa Thomas i’r cyfarfod.
2.2 Trafododd y Bwrdd gynigion ar gyfer RAE, costau Swyddfa, teithio, cymorth staffio ac Aelodau'n gadael y swydd.
2.3 Trafododd y Bwrdd drosglwyddo costau deunydd ysgrifennu a ariennir gan y Comisiwn i'r Penderfyniad, a chytunodd ei bod yn rhy gynnar i wneud hynny nawr. Cytunwyd i gymryd sylw o’r ffaith y byddai'r trosglwyddiad yn digwydd o ddechrau'r Chweched Cynulliad.
2.4 Ystyriodd y Bwrdd y Penderfyniad drafft fesul llinell, a chytunwyd i ystyried y diwygiadau ac i gymeradwyo'r drafft terfynol ar gyfer ymgynghori yn eich gylch drwy e-bost.
2.5 Ystyriodd y Bwrdd y ddogfen ymgynghori ddrafft, a chytunwyd i ystyried y diwygiadau ac i gymeradwyo'r fersiwn derfynol drwy e-bost.
2.6 Cytunodd y Bwrdd i gomisiynu Diverse Cymru i gynnal Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar y Penderfyniad i lywio'r fersiwn derfynol.
3.1 Ystyriodd y Bwrdd opsiynau ar gyfer sut y mae'n dymuno cyhoeddi ei ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft.
3.2 Ystyriodd y Bwrdd y negeseuon allweddol ac amserlen yr ymgynghoriad ar y Penderfyniad, a chytunodd arnynt.
Cam gweithredu:
- Yr Ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi'r Penderfyniad drafft a chyhoeddi'r dogfennau atodol ar gyfer ymgynghori yn eu cylch yn unol â'r strategaeth gyfathrebu y cytunwyd arni gan y Bwrdd.